Mae Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth 2021 yn gyfle i ddangos i’r byd y gorau o Gymru a’r hyn sydd ganddi i’w chynnig ac mae Dyma Gymru yn eich gwahodd i ymuno â nhw.
Fel rhan o’u gŵyl ddigidol dros benwythnos Gŵyl Ddewi, byddant yn arddangos Cymru ar draws y cyfryngau cymdeithasol gyda straeon am y bobl, am y diwylliant, am fusnesau a chymunedau, gan gynnwys y canlynol:
- dathliad 72 awr yng nghwmni defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol, gan ddathlu popeth Cymraeg a Chymreig (o 26 Chwefror)
- ffilm arwyr a detholiad o gynnwys mewn ieithoedd gwahanol i’w defnyddio’n fyd-eang
- cynnwys diwygiedig ar https://www.wales.com/cy
- rhaglen ddigidol o ddigwyddiadau a fydd yn cael eu hysbysebu ar https://www.wales.com/cy
Mae trosolwg o’r gweithgarwch ar gyfer defnyddwyr a fydd yn cael ei drefnu ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi a manylion ar sut gallwch gofrestru eich diddordeb i ymuno a hyrwyddo’r cynnwys hwn drwy eich sianeli eich hun, ar gael yn y Pecyn Cymryd Rhan ar gyfer Rhanddeiliaid a Phartneriaid.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan https://www.wales.com/cy