Galwad ryngwladol i weithredu yw Dydd Mawrth Porffor, 2 Tachwedd 2021, yn canolbwyntio ar newid profiad pobl anabl fel cwsmeriaid. Bydd yn golygu bod sefydliadau o bob maint ac o bob sector yn cymryd camau pendant, ymarferol, i ateb anghenion cwsmeriaid anabl.
Ar draws y Deyrnas Unedig, mae’r Bunt Borffor - grym gwario pobl anabl a’u teuluoedd - yn werth £274 biliwn ac yn codi 14% y flwyddyn ar gyfartaledd, ond mae gan lai na 10% o fusnesau gynllun wedi’i dargedu er mwyn manteisio ar y farchnad anabledd hon.
Nod Dydd Mawrth Porffor yw creu newid sylweddol yn yr ymwybyddiaeth o werth ac anghenion cwsmeriaid anabl.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall eich busnes chi gymryd rhan ewch i wefan Dydd Mawrth Porffor.