Mae Dydd Mawrth Porffor yn fudiad cymdeithasol byd-eang a'r prif frand ar gyfer gwella profiad y cwsmer i bobl anabl a'u teuluoedd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae'r fenter yn ysbrydoli arweinyddiaeth a staff sefydliadau o bob sector a maint i hyrwyddo ymwybyddiaeth, datblygu dealltwriaeth, a gweithredu atebion ar gyfer gwell hygyrchedd yn amgylcheddau eu cwsmeriaid.
Mae sefydliadau sy'n cymryd rhan yn gwneud ymrwymiadau cyhoeddus (o leiaf un gweithgaredd neu fenter newydd) bob blwyddyn sy'n gwella eu hygyrchedd a'u hymarfer fel bod cwsmeriaid anabl yn cael profiad gwell, mwy cynhwysol.
Mae'r mudiad Dydd Mawrth Porffor yn cael ei amlygu bob blwyddyn gan ddiwrnod dathlu, dydd Mawrth cyntaf Tachwedd, sef 1 Tachwedd eleni, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Dydd Mawrth Porffor. Yn 2021, cyrhaeddodd y dathliad yn y Deyrnas Unedig dros 19 miliwn o bobl; roedd yn cynnwys dros 7,000 o sgyrsiau ar y cyfryngau cymdeithasol; a dros 270 darn ar y cyfryngau darlledu ac argraffu. Mae Dydd Mawrth Porffor yn taro deuddeg gyda busnesau a'r gymuned.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol https://purpletuesday.co/About-Us