BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dydd Miwsig Cymru 2022

Bydd Dydd Miwsig Cymru yn digwydd ar 4 Chwefror 2022.

P’un a ydych chi’n hoffi miwsig indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae miwsig anhygoel yn cael ei greu yn y Gymraeg i chi ei ddarganfod. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg.

Ond does dim rhaid i ti aros tan Dydd Miwsig Cymru i rannu dy gariad at gerddoriaeth Gymraeg neu i ddod o hyd i dy hoff gân newydd, dilyna @Miwsig_ neu chwilia am #Miwsig.

Mae cymaint yn mynd ymlaen i ddathlu Dydd Miwsig Cymru – dyma sut mae ymuno yn yr hwyl:

  • ymuna yn y sgwrs gyda’r hashnod #dyddmiwsigcymru
  • dilyna ni ar Twitter a Facebook
  • rhanna’r dudalen hon gyda dy holl ffrindiau

Os oes gen ti gynlluniau ar gyfer Dydd Miwsig Cymru, byddem wrth ein bodd yn clywed  gen ti. Cysyllta â cymraeg@gov.cymru

I gael rhagor o wybodaeth ewch i LLYW.Cymru

Mae llawer o resymau da i chi i ddefnyddio'r Gymraeg yn eich busnes, ewch i'r tudalennau Helo Blod i gael gwybod mwy.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.