BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dydd Sadwrn y Busnesau Bach 2020

Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach unwaith eto eleni yn tynnu sylw at 100 o fusnesau bach, un y diwrnod am y 100 diwrnod sy’n arwain at Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach 5 Rhagfyr 2020.

Am y saith mlynedd diwethaf’, mae’r 100 wedi cael sylw nid yn unig ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ac yn y wasg leol a chenedlaethol, maent hefyd wedi ymuno â thîm Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn Llundain mewn derbyniadau yn Stryd Downing ac yn y Trysorlys gyda Changhellor y Trysorlys.

Bydd y ceisiadau’n cau ddydd 30 Mehefin 2020. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Dydd Sadwrn y Busnesau Bach.

Cofiwch ddilyn Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ar Facebook a Twitter!


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.