Mae'r ceisiadau ar gyfer 100 Busnes Bach eleni bellach ar agor yn swyddogol!
Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach unwaith eto eleni yn tynnu sylw at 100 o fusnesau bach, un y diwrnod am y 100 diwrnod sy’n arwain at Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach, 3 Rhagfyr 2022.
Am y naw blynedd diwethaf, mae’r 100 wedi cael sylw nid yn unig ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ac yn y wasg leol a chenedlaethol, maent hefyd wedi ymuno â thîm Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn Llundain mewn derbyniadau yn Stryd Downing ac yn y Trysorlys gyda Changhellor y Trysorlys.
Bydd y ceisiadau’n cau ddydd 30 Mehefin 2022.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Dydd Sadwrn y Busnesau Bach.