
O dan gynllun newydd cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr ar gyfer pecynnu (pEPR), rhaid i’r busnesau hynny sydd yn gorfod cyflwyno data pecynnu wneud hynny ar gyfer 2024 erbyn 1 Ebrill 2025.
O dan y ddeddfwriaeth a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2024, rhaid i sefydliadau mawr gyflwyno eu data ar gyfer Gorffennaf–Rhagfyr 2024 erbyn 1 Ebrill.
Rhaid i sefydliadau bychain gyflwyno eu data ar gyfer Ionawr–Rhagfyr 2024 mewn un cyflwyniad blynyddol erbyn 1 Ebrill.
Hefyd, rhaid i bob sefydliad sydd dan rwymedigaeth, boed nhw’n fawr neu’n fach, gofrestru gyda'u rheoleiddiwr amgylcheddol erbyn yr un dyddiad. Gellir dod o hyd i ganllawiau ar sut i gofrestru ar wefan GOV.UK.
I wirio a oes rhaid i fusnes roi adroddiad o’u data pecynnu, dylid darllen EPR: who is affected and what to do ynghyd â’r cyfarwyddiadau ar-lein ar sut i gael mynediad i'r gwasanaeth Adroddiadau Data Pecynnu newydd, os oes angen.
Mae ailgylchu yn y gweithle wedi newid yng Nghymru, ac mae'n gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus ddidoli eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu.
Mae'r gyfraith hefyd yn berthnasol i'r holl gasglwyr a phroseswyr gwastraff a deunydd ailgylchu sy'n ymdrin â gwastraff gweithleoedd sy'n debyg i wastraff cartrefi. Ailgylchu yn y Gweithle | LLYW.CYMRU