BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dyfodol Ynni Cymru 2024

Engineer stood in front of wind turbines and a Welsh flag

Bydd Ynni Dyfodol Cymru yn dychwelyd i’r ICC yng Nghasnewydd ar 12 i 13 Tachwedd 2024. Hwn yw’r lle i ddiogelu eich busnes at y dyfodol a helpu i lunio’r cyfle ynni adnewyddadwy i Gymru.

Ymunwch ag arweinwyr diwydiant, gweithgynhyrchwyr, arloeswyr a llunwyr polisi yn y digwyddiad pwysicaf yng nghalendr ynni adnewyddadwy Cymru.

Mae ein rhaglen ar gyfer 2024 yn dangos y cyfleoedd economaidd a’r partneriaethau strategol sydd eu hangen i gyflymu’r broses o drosglwyddo i ynni adnewyddadwy ar draws y DU. Dros y degawd nesaf bydd angen i Gymru gynyddu pedair gwaith ei chapasiti ynni gwynt – o ffynonellau ar y tir ac ar y môr – i ddiwallu ein hangen cynyddol am drydan glân.

Gyda’i gilydd, mae ynni gwynt ar y môr ac ar y tir yn gyfle economaidd mawr i Gymru a’r DU, gan greu miloedd o swyddi a biliynau o fuddsoddiad. I fusnesau Cymru, bydd ehangu i fodloni gofynion y diwydiant hwn yn allweddol.

O bob rhan o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol, mae’r cynrychiolwyr yn gymysgedd eang o ddatblygwyr technoleg a phrosiectau, uwch-wneuthurwyr polisi a phenderfyniadau, cwmnïau seilwaith a chadwyn gyflenwi, rheoleiddwyr, ymgynghorwyr a chynghorwyr.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Future Energy Wales 2024 - Welsh (renewableuk.com)

Mae gweithredu dros yr hinsawdd yn cynnig nifer o fanteision i'r amgylchedd, iechyd a lles, cymdeithas a'r economi. Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn gynhadledd rithwir 5 diwrnod, rhwng 11 a 15 Tachwedd 2024, a bydd yn cynnwys sesiynau ar effaith newid hinsawdd yn ein cymunedau, ar natur, amaethyddiaeth, diogelwch bwyd, busnes, trafnidiaeth, adeiladau a mwy. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Hafan | Wythnos Hinsawdd Cymru 2024 (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.