BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ebrill 2024: Cyfleoedd Ariannu Innovate UK

Lightbulb

Benthyciadau arloesi economi’r dyfodol Innovate UK: rownd 14

Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am fenthyciadau ar gyfer prosiectau arloesol sydd â photensial masnachol cryf i wella economi’r DU yn sylweddol. Mae Innovate UK yn cynnig hyd at £25 miliwn mewn benthyciadau i fusnesau micro, bach a chanolig (BBaChau). Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 1 Mai 2024. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais: Benthyciadau arloesi economi’r dyfodol Innovate UK: rownd 14 - Innovate UK Business Connect (ktn-uk.org)

ARMD3 - Arddangosydd llwybr uwch i'r farchnad ar gyfer technoleg fodurol di-allyriadau

Bydd Innovate UK, sy’n rhan o UK Research and Innovation, yn gweithio gyda’r Adran Busnes a Masnach drwy’r Advanced Propulsion Centre (APC), y diwydiant modurol a’r byd academaidd, i fuddsoddi hyd at £15 miliwn yn y gystadleuaeth Arddangosydd Llwybr Uwch i’r Farchnad 3 (ARMD3). Mae'r gystadleuaeth yn agored i fusnesau sydd wedi cofrestru yn y DU. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 1 Mai 2024. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais: APC: ARMD3 - Arddangosydd llwybr uwch i’r farchnad ar gyfer technoleg fodurol di-allyriadau - Innovate UK Business Connect (ktn-uk.org)

Deunyddiau a gweithgynhyrchu sy'n effeithlon o ran adnoddau neu'n seiliedig ar ddeunydd biolegol - astudiaethau dichonoldeb 2

Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £1 miliwn ar gyfer astudiaethau dichonoldeb arloesol ym maes gweithgynhyrchu carbon isel datblygedig. Nod y gystadleuaeth hon yw y bydd deunyddiau a gweithgynhyrchu’r DU yn effeithlon o ran adnoddau ac yn sero net. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 29 Mai 2024: Deunyddiau a gweithgynhyrchu sy’n effeithlon o ran adnoddau neu’n seiliedig ar ddeunydd biolegol – astudiaethau dichololdeb 2 - Innovate UK Business Connect (ktn-uk.org)

Ymchwil a Datblygu Cydweithredol rhwng y DU a Taiwan 2024

Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £5 miliwn i ddatblygu cynigion arloesol, gan gydweithio gydag o leiaf un busnes yn Nhaiwan. Nod y gystadleuaeth hon yw ariannu prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol sy'n canolbwyntio ar ymchwil ddiwydiannol. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 17 Gorffennaf 2024. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais: Ymchwil a Datblygu Cydweithredol rhwng y DU a Taiwan 2024 - Innovate UK Business Connect (ktn-uk.org)

Mae gan Innovate UK ystod eang o gyfleoedd ariannu sy’n agored i fusnesau yng Nghymru ar gyfer arloesi a buddsoddi mewn ymchwil, datblygu ac arloesi.

Gall tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gael mynediad at y cyllid hwn a chefnogi eich busnes ymhellach: Digwyddiadur Busnes Cymru - CRISP24 - Cyfarfod Cymorth Ar-lein (business-events.org.uk) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.