Mae angen i gyflogwyr wneud mwy i hyrwyddo gweithio hyblyg i fenywod, a rhoi cymorth i liniaru yn erbyn trais a cham-drin domestig yn ystod argyfyngau fel pandemig Covid-19, yn ôl adroddiad newydd.
Mae’r adroddiad, ‘effaith Pandemig COVID-19 ar Fenywod, Cyflogaeth ac Anghydraddoldebau Iechyd’, yn amlygu sut roedd anghydraddoldebau presennol sy'n wynebu menywod wedi gwaethygu ac effeithio ar eu bywydau gwaith yn ystod pandemig Covid-19.
Mae'n amlygu cyfleoedd i gyflogwyr a’r llywodraeth weithredu i wella iechyd a llesiant menywod, gan gynnwys mynd i'r afael ag amodau gwaith, colli incwm anghyfartal, a chymorth ar gyfer cam-drin domestig a rheolaeth drwy orfodaeth.
I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Mae angen cymorth cam-drin domestig a gweithio mwy hyblyg ar fenywod yn ystod argyfyngau iechyd cyhoeddus - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)