Mae Prynu Cartref yn gynllun a grëwyd i helpu pobl na allent fforddio prynu eiddo ac mae o fudd arbennig mewn cymunedau mwy gwledig lle mae’n bosibl nad oes llawer o gyfleoedd i brynu cartref.
Lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot Dwyfor fel rhan o ystod o fesurau i fynd i’r afael â materion a achosir gan berchentyaeth ail gartrefi. Dewiswyd yr ardal yng Ngwynedd fel yr ardal beilot ar sail ei maint daearyddol, y crynhoad o ail gartrefi yng nghymunedau'r ardal a'r materion sy'n wynebu'r Gymraeg.
Cyngor Gwynedd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, oedd yr awdurdod cynllunio lleol cyntaf yng Nghymru i weithredu cyfarwyddyd cynllunio Erthygl 4 o Fedi 2024. Mae hyn yn golygu y gallai fod angen caniatâd cynllunio cyn newid y defnydd o eiddo preswyl cynradd i ail gartref, llety gwyliau tymor byr neu eiddo defnydd cymysg penodol.
Mae mwy o awdurdodau lleol hefyd wedi penderfynu defnyddio'r pwerau sydd ar gael iddynt i godi premiymau y dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth - www.llyw.cymru/mwy-o-bobl-yn-dod-yn-berchnogion-tai-am-y-tro-cyntaf-ohe…