BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Eglurder i Fanwerthwyr ar Wirio Oedran a Gorchuddion Wyneb

Mae’r Gymdeithas Siopau Bwyd (ACS) wedi gweithio gyda Safonau Masnach i roi eglurder i siopau lleol am werthu cynhyrchion gyda chyfyngiadau oedran mewn perthynas â chwsmeriaid sy’n gwisgo masgiau neu orchuddion ar eu hwynebau.

Wrth serfio cwsmeriaid sy’n gwisgo masgiau wyneb a gorchuddion wyneb sydd am brynu cynhyrchion sydd â chyfyngiadau oedran yn y siop, dylai manwerthwyr ystyried y canlynol:

  • dylai manwerthwyr barhau i orfodi polisïau Herio 25
  • os na all y manwerthwr asesu oedran cwsmer yn hyderus, dylai wrthod gwerthu
  • os yw’r manwerthwr neu’r aelod staff yn credu bod y cwsmer yn iau na 25, dylid gofyn am dystiolaeth oedran
  • dylai’r manwerthwr geisio gwirio’r cwsmer yn ei fasg neu orchudd wyneb - ac os na all wirio’r oedran yn hyderus, dylai ofyn i’r unigolyn dynnu’r masg neu’r gorchudd am eiliad neu ddwy, ac os nad yw’r cwsmer yn fodlon gwneud hyn, dylid gwrthod gwerthu

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan ACS.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.