BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ehangu’r Cynnig Gofal Plant wrth i wasanaeth digidol newydd gael ei lansio

Mae gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd wedi’i lansio, a fydd yn symleiddio'r Cynnig Gofal Plant i rieni a darparwyr gofal plant.

Mae'r Cynnig hefyd wedi'i ehangu i fwy o deuluoedd, a gall rhieni sydd mewn addysg a hyfforddiant nawr wneud cais am hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi'u hariannu gan y llywodraeth ar gyfer eu plant tair a phedair oed.

Ar hyn o bryd mae'r Cynnig Gofal Plant yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol sy'n defnyddio systemau gwahanol i brosesu ceisiadau rhieni ac i dalu darparwyr am yr oriau sy’n cael eu darparu o dan y Cynnig. Bydd y gwasanaeth digidol cenedlaethol yn disodli'r systemau hyn fel y bydd pob awdurdod lleol, rhiant a darparwr gofal plant yn defnyddio’r un gwasanaeth.

Mae'r platfform digidol cenedlaethol newydd ar gael yn ddwyieithog, ac mae modd mynd ato drwy ddyfeisiau symudol gan gynnwys cyfrifiaduron llechen a ffonau symudol, a bydd yn sicrhau bod rhieni a darparwyr gofal plant ledled Cymru yn cael yr un profiad, ble bynnag y maen nhw’n byw. 

Bydd rhieni sy'n gymwys i ddefnyddio’r Cynnig Gofal Plant o fis Ionawr 2023 yn gallu gwneud cais o hyn ymlaen drwy'r gwasanaeth newydd.

Ni fydd angen i rieni sydd eisoes yn defnyddio'r Cynnig wneud unrhyw beth, ac fe fyddan nhw yn aros o fewn system eu hawdurdod lleol. Ond os ydyn nhw am gael arian drwy’r Cynnig ar gyfer plentyn arall o fis Ionawr 2023, bydd angen iddyn nhw wneud cais drwy'r gwasanaeth digidol cenedlaethol.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Ehangu’r Cynnig Gofal Plant wrth i wasanaeth digidol newydd gael ei lansio | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.