BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Eich rôl fel cyfarwyddwr cwmni a newidiadau i gyfraith cwmnïau'r DU

Yn Galw ar holl gyfarwyddwyr cwmni

Mae angen i gyfarwyddwr cwmni ddeall bod eu rôl yn dod â dyletswyddau a chyfrifoldebau. Yn ogystal â rhedeg cwmni o ddydd i ddydd, mae angen i gyfarwyddwyr ddiweddaru cofnodion cwmni a sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei ffeilio ar amser.

Gyda chyflwyniad y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol, mae angen i gyfarwyddwyr hefyd fod yn ymwybodol o ofynion newydd a chael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i gyfraith cwmnïau'r DU.

 Mae Tŷ'r Cwmnïau yn annog cyfarwyddwyr i ddefnyddio eu canllawiau, eu hoffer a'u gwasanaethau i ddysgu mwy am y mesurau newydd, beth sydd angen iddynt eu gwneud nawr a sut y gallant baratoi ar gyfer newidiadau yn y dyfodol. Trwy gadw’n wybodus, gall cyfarwyddwyr sicrhau eu bod yn parhau i redeg eu busnes yn dda a pharhau i gydymffurfio.

Cliciwch ar y doleni ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: 

Cadwch yn wybodus a chofrestrwch i dderbyn cylchlythyrau rheolaidd gan Dŷ'r Cwmnïau. Gallwch ddewis o blith amrywiaeth o bynciau.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.