BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Eich tref, eich dyfodol!

Ydych chi’n poeni am ddyfodol canol eich tref? Ydych chi wedi ymweld â chanol eich tref i siopa am y Nadolig?

Mae COVID-19 wedi cael effaith ar Gymru gyfan. Mae wedi cyflwyno heriau gwirioneddol i fusnesau, manwerthwyr, cyrff cyhoeddus, aelodau etholedig a swyddogion cynghorau ledled y wlad.

Mae Archwilio Cymru yn cynnal ymchwil ar ddyfodol trefi Cymru ac eisiau eich barn a'ch profiad ar:

  • beth sy'n gwneud eich tref leol yn lle gwych i ymweld ag ef ac i siopa
  • pa newidiadau yr hoffech eu gweld yn digwydd yn eich tref leol
  • pha gamau y dylid eu blaenoriaethu ar gyfer y dyfodol

Drwy gwblhau yrharolwg byr, byddwch yn  helpu Archwilio Cymru i ddeall yr heriau a'r anawsterau sy'n wynebu ein trefi. Byddwch hefyd yn helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a busnesau lleol i wneud y dewisiadau cywir ar gyfer ein trefi.

Mae'r arolwg yn ddienw a dylai gymryd rhwng 5 a 10 munud i'w gwblhau a'r dyddiad cau yw 19 Mawrth 2021.

Darganfyddwch mwy a chwblhewch yr arolwg: https://audit.wales/cy/arolwg-eich-tref-eich-dyfodol  #EichTrefEichDyfodol

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.