O 1 Ionawr 2021, bydd Swyddfa Eiddo Deallusol y DU yn creu dyluniad ailgofrestredig ar gyfer y DU ar gyfer pob dyluniad rhyngwladol (UE) a fydd yn cael ei ddiogelu ar ddiwedd y cyfnod pontio.
Os oes cais am ddyluniad rhyngwladol yn dynodi’r UE wedi ei wneud, ond nad yw wedi’i ddiogelu eto neu os yw’r cyhoeddiad wedi’i oedi, bydd gan y daliwr gyfnod o naw mis i wneud cais am yr un hawl â dyluniad y DU.
Bydd yn rhaid talu ffioedd cais y DU, a bydd y cais yn amodol ar ofynion archwilio’r DU.
Mae rhagor o wybodaeth allweddol ar gyfer cwsmeriaid a defnyddwyr Eiddo Deallusol a sut y bydd y system Eiddo Deallusol a Swyddfa Eiddo Deallusol y DU yn gweithredu ar ôl diwedd y cyfnod pontio ar gael ar wefan GOV.UK.
Am ragor o wybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a'r UE, ewch i Porth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.