BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Eiddo Deallusol i Fusnesau

copyright concept, author rights and patented intellectual property

Angen dysgu am Eiddo Deallusol (IP) a sut y gall helpu eich busnes?

Mae gan y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) adnoddau cymorth rhad ac am ddim ar-lein a luniwyd i baratoi busnesau’r Deyrnas Unedig ar gyfer:

  • Deall sut mae IP yn gweithio a beth all gael ei amddiffyn gan ddefnyddio patentau, hawlfraint, nodau masnach a dyluniadau
  • Deall sut i reoli a defnyddio IP
  • Ystyried IP o fewn cynllunio busnes
  • Y ffordd orau o ddefnyddio IP i amddiffyn buddsoddiadau a chynnyrch

Gellir eu defnyddio am ddim ar ôl eu cofrestru.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Welcome to IPO’s online support tools

Hefyd, gallwch ddysgu hanfodion amddiffyn IP a sut i gael y gorau ohono, o dan arweiniad gan ein harbenigwyr: Eiddo Deallusol | Arloesi (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.