Wyt ti eisiau defnyddio bach mwy o Gymraeg yn dy fusnes? Ry’n ni newydd gyhoeddi rhestr o adnoddau technoleg Cymraeg ar ein gwefan sy’n gallu helpu gyda hyn.
Dyma rai o’r enghreifftiau o’r mathau o bethau sydd ar gael am ddim:
- Cysgliad – eisiau magu hyder wrth ysgrifennu yn Gymraeg? Mae Cysgliad yn wirydd sillafu ac yn gyfres o eiriaduron Cymraeg. Mae mwy na chwe mil o gopïau wedi'u lawrlwytho ers ei ryddhau yn rhad ac am ddim.
- Canllaw i dy helpu i ddatblygu gwasanaethau a meddalwedd dwyieithog sy’n hawdd i bobl eu defnyddio. Wrthi’n tendro am wasanaeth? Gwahoddwch gontractwyr posibl i lenwi hyn.
Mae gyda ni fwy na 50 o adnoddau a bydd y rhestr yn tyfu – felly gobeithio y byddi di’n dod o hyd i un sydd o ddefnydd i ti a dy fusnes.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Helo Blod.