Technoleg Cymraeg

Cat on a laptop

Eisiau gwybod rhagor am dechnoleg Cymraeg?  Gad i Helo Blod helpu. 
Mae rhywbeth at ddant pawb ar y rhestr yma, p’un ai dy fod ti angen gwirio sillafu a gramadeg neu gyflwyno’r Gymraeg i dy gyfrifiadur.  Efallai dy fod ti hyd yn oed yn chwilio am help wrth ddatblygu meddalwedd, adnoddau neu wasanaethau newydd yn Gymraeg. Dyma’r lle i ti hefyd.

Mae'r rhestr yma yn newydd. Os gweli di wall neu os oes rhywbeth angen ei ychwanegu, rho wybod i Helo Blod!

Microsoft 365  

Wyt ti’n defnyddio Microsoft 365?  Mae’r rhyngwyneb Cymraeg ar gael yn rhad ac am ddim? 

Pecynnau Rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer Microsoft Office a Windows 

Defnyddio fersiynau hŷn o Office?  Dim problem.  Fan hyn cei di ryngwyneb Cymraeg ar gyfer nifer o gynnyrch Microsoft - gan gynnwys Windows. 

LibreOffice 

Mae’r casgliad yma o raglenni swyddfa yn rhad ac am ddim ond beth sy’n well byth yw eu bod ar gael yn Gymraeg!   

Vocab  

Wedi dod ar draws gair anghyfarwydd wrth ddarllen tudalen gwe Gymraeg?  Symuda’r llygoden dros y gair a bydd VOCAB yn dangos y cyfieithiad i ti.

Thunderbird  

Cyflwyna mwy o Gymraeg i fywyd bob dydd gyda’r rhaglen e-bost, llif newyddion, sgwrsio, a chalendr, cod agored yma. 

Fideos ‘sut i’ technoleg  

Wyt ti eisiau gosod rhyngwyneb Cymraeg ar dy gyfrifiadur ond ddim yn gwybod lle i ddechrau?  Gwylia’r fideos yma sy’n hawdd i’w dilyn ac yn dangos i ti yn union sut i fynd ati. 

Cysgliad   

Eisiau magu hyder wrth ysgrifennu yn Gymraeg?  Mae Cysgliad am ddim ar gyfer unigolion, ysgolion, a phawb sy’n cyflogi deg o bobl neu lai.  Beth yw Cysgliad? 

  • Cysill - Paid â phoeni am gamgymeriadau, gad i Cysill gywiro unrhyw wallau iaith a helpu gyda’r treigladau!
  • Cysgeir - Methu’n deg â chofio beth yw’r gair Cymraeg ar gyfer “computer”? Chwilia trwy Cysgeir am yr ateb.  

Byd Term Cymru   

Cronfa dermau, canllawiau arddull a phob math o adnoddau defnyddiol eraill i helpu gyda chyfieithu a chreu cynnwys gwreiddiol yn Gymraeg.

Os wyt ti’n chwilio am gronfa dermau i’w defnyddio mewn cof cyfieithu, mae’n werth lawrlwytho cronfa TermCymru, gelli di lawrlwytho mwy na chant o gofau cyfieithu. 

CorCenCC - Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes

Mae cronfa ddata electronig CorCenCC yn cynnwys 10 miliwn o eiriau Cymraeg.  Gelli di weld enghreifftiau o eiriau o fewn testunau amrywiol, yn hytrach na diffiniadau.

Awyddus i wybod rhagor am sut mae CorCenCC yn rhoi’r gronfa ddata yma at ei gilydd?  Newyddion da - mae’r holl ddogfennau sy’n ymwneud â’r prosiect ar gael am ddim yma.  

  • Dyma’r eirfa sydd y tu ôl i adnoddau technoleg iaith CorCenCC 
  • Casgliad o offer prosesu iaith naturiol Python ar gyfer y Gymraeg, sy’n cynnwys segmentydd testun, holltydd brawddegau, tocyneiddiwr a thagiwr rhannau madrodd
  • Tagiwr semantig sydd wedi ei seilio ar reolau Prifysgol Caerhirfryn
  • Bant â ti: tagia dy rannau ymadrodd Cymraeg. 
  • Yn y bôn, mae pawb yn hoffi boniwr.  Dyma un Python sy’n defnyddio algorithm Porter wedi ei addasu ar gyfer y Gymraeg. 
  • Offer testun amrywiol - Cyd-leolwr geiriau, datgelydd amlder geiriau ac offer testun eraill. 

Pecyn Cymorth Iaith Naturiol Cymru (WNLT) Prifysgol De Cymru  

Hoff o ddadansoddi testun?  Pwy sy ddim?  Mae’r pecyn yma’n cynnwys rhannwr geiriau, tagiwr rhannau ymadrodd a boniwr ar gyfer y Gymraeg. Mae’n ddefnyddiol hefyd i ddadansoddi beth sy’n cael ei ddweud yn y cyfryngau cymdeithasol. 

FlexiTerm Cymraeg: datgelydd termau Prifysgol Caerdydd  

Beth am brofi dy sgiliau a rhoi cynnig ar FlexiTerm?  Meddalwedd sy’n amlygu termau posibl yn awtomatig mewn testunau Cymraeg.

Moses SMT

Diddordeb mewn cyfieithu ac yn chwilio am feddalwedd cyfieithu beirianyddol ystadegol?  Ta-da... dyma ti wedi dod o hyd i un!

Aliniwr Cymraeg-Saesneg Prifysgol Bangor 

Dyma adnodd ar gyfer y cyfieithwyr yn ein plith; rhaglen sy’n caniatáu alinio rhwng testunau Cymraeg a Saesneg ar lefel y frawddeg.  Cofia dy gofion cyfieithu a phortha dy DMX gyda’r teclyn bach defnyddiol ‘ma.

Linguaskin  

Wyt ti neu dy gwmni’n cynnig gwasanaeth yn Saesneg yn unig?  Efallai gall Linguaskin dy helpu i’w gynnig yn Gymraeg. 

Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru  

Mae byd technoleg yn symud yn sydyn – dyma beth ry’n ni’n ei wneud i sicrhau bod y Gymraeg yn symud ym myd technoleg. 

Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru: adroddiad cynnydd 2020  

Wedi darllen y Cynllun Gweithredu ac eisiau gwybod beth ry’n ni wedi’i gyflawni hyd yma?  Dyma’r ddogfen i ti: dwy flynedd gyntaf ein gwaith.

Wicipedia Cymraeg 

Yr anrheg mae pawb wedi bod yn aros amdano - can mil a mwy o erthyglau Cymraeg, a rhagor yn cael eu cyhoeddi bob dydd.

Podlediadau Cymraeg - sgil Gymraeg i Alexa 

Mae Alexa’n gallu dy gyflwyno di i bodlediadau Cymraeg, dyweda: "Alexa, open Welsh Language Podcasts". 

Y Pod 

Ffansi gwrando ar bodlediad Cymraeg ond ddim yn gwybod lle mae dechrau?  Mae rhywbeth at ddant pawb draw ar Y Pod.  

Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru  

Beth am gyflwyno’r Gymraeg i dy brosiect digidol? Mae rhywbeth ar gael i bawb sy’n hoffi technoleg Cymraeg rhwng y cynnwys yma a rhestr Helo Blod.

Hacio’r Iaith   

Ymuna â chymuned Hacio’r Iaith i drin a thrafod diweddariadau a datblygiadau’r Gymraeg yn y byd digidol. 

Hedyn  

Hoffet ti ragor o gynnwys Cymraeg ar dy ffôn?  Cer drwy’r rhestr yma o apiau iOS ac Android, sydd un ai yn Gymraeg neu’n cynnwys elfen o Gymraeg, a mater bach o lawrlwytho’r apiau yw hi wedyn.

WordPress   

Cofia bod modd i ti ddefnyddio WordPress yn Gymraeg wrth i ti fynd ati i ddatblygu gwefan neu flog. 

Gelli di hefyd gyfeirio at restr ddefnyddiol Hedyn i ganfod pa ategion a themâu WordPress sydd ar gael yn Gymraeg

Scratch   

Rhaglen sydd ar gael mewn sawl iaith – gan gynnwys y Gymraeg.  Mae Scratch yn hwyluso dysgu codio i blant (neu oedolion).  Gelli di ddysgu sut mae rhaglennu gêmau ac animeiddiadau rhyngweithiol. 

Codio Cymru   

Wyt ti erioed wedi meddwl beth yw’r busnes codio mae pawb yn ei drafod y dyddiau yma?  Cer draw i Codio Cymru i ddysgu mwy amdano yn Gymraeg.

Bysellfwrdd SwiftKey 

Bysellfwrdd darogan neu ‘predictive’ sy’n dysgu ac yn addasu i’r ffordd rwyt ti’n ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd. 

Mapio Cymru

Diolch i’r map rhyngweithiol Cymraeg yma, fyddi di byth yn teimlo ar goll eto!  Mae enwau’r lleoedd i gyd yn ymddangos yn Gymraeg a gelli di osod y map ar wefannau eraill hefyd. 

Corpora Prifysgol Bangor 

Beth yw ‘corpws’ neu ‘gorpora’? Casgliadau mawr o wahanol fathau o Gymraeg.  Dyma restr o rai allweddol.

Rhestrau geiriadurol Prifysgol Bangor  

Llond y lle o restrau i helpu gyda phob dim!  O’r geiriau Cymraeg mwyaf cyffredin i restrau sillafu, ynganu a phob math o themâu, mae’r cyfan i gyd ar gael mewn un lle hawdd.

WordNet Cymraeg   

Ry’n ni wedi bwrw’n rhwyd yn eang ym maes technoleg a dyma WordNet, sef grwpiau o eiriau Cymraeg sydd ag ystyron tebyg, wedi’u croes gysylltu mewn ffordd ystyrlon. 

Hunspell  

Gwirydd sillafu cod agored i ti sicrhau sillafu speshal.  

Corpws OSCAR 

Wyt ti eisiau dod i nabod OSCAR yn well?  Defnyddia’r teclyn canfod a disodli, chwilia am y gair ‘Welsh’ a lawrlwytha’r adnoddau. 

Rhestr termau technolegol Cymraeg a chanllaw arddull Microsoft  

Beth yw ‘cancel’ yn Gymraeg? ‘Diddymu? Canslo? Dileu?’  Mae defnyddio’r termau cywir yn gyson yn bwysig wrth leoleiddio meddalwedd.  Gosoda’r iaith i ‘Welsh’ a bant â thi!  Oh, ac mae canllaw arddull manwl hefyd sy’n helpu cyfieithwyr a lleoleiddwyr pob rhaglen.

Porth Termau Cenedlaethol Cymru  

Man gwych i chwilio am derminoleg Cymraeg sy’n ymwneud â sectorau penodol fel addysg, gofal cymdeithasol, natur a llawer mwy. 

CLDR (Common Locale Data Repository)  

Blociau adeiladu i feddalwedd – y storfa fwyaf yn y byd o ddata locale, gan gynnwys y Gymraeg wrth gwrs. 

Modelau iaith fectorau Cymraeg  

Chwilio am fodel iaith i hyfforddi systemau adnabod lleferydd?  Dyma un sy’n rhoi rhif neu ‘fector’ arbennig i bob gair yn ôl pa mor agos mae e at eiriau eraill.

Mozilla Common Voice  

Prosiect cod agored i sicrhau bod technoleg adnabod llais ar gael mewn sawl iaith – y Gymraeg yw diddordeb Helo Blod wrth gwrs.  Eisiau cyfrannu? Recordia dy hun yn siarad Cymraeg neu gelli di hefyd wirio recordiadau pobl eraill.  

Corpws Lleferydd Paldaruo Prifysgol Bangor  

Oes gen ti ddiddordeb mewn datblygu technoleg lleferydd Cymraeg? Bydd y corpws o recordiadau ffeiliau sain yma’n fan cychwyn grêt.

Macsen – cynorthwyydd personol Cymraeg 

Dwyt ti’m yn cofio Macsen? Does neb yn ei nabod o!  Dyma dy gyfle di i gyfarfod cynorthwyydd personol Cymraeg.  

Rheolau ynganu Cymraeg   

Mae’n gallu bod yn anodd gwybod sut mae ynganu ambell air o bryd i’w gilydd, felly pa obaith sydd gan lais synthetig i wneud?  Trwy ddefnyddio rheolau Prifysgol Bangor fe fydd ganddo ynganiad perffaith mewn dim. 

Am gymorth pellach, mae yna hefyd restr ynganu geiriau Cymraeg sydd at ddefnydd apiau ac offer lleferydd. 

Adnoddau lleferydd Prifysgol Bangor 

Mae llawer ohonon ni yn defnyddio technolegau iaith lleferydd i gyfathrebu gyda’n ffonau symudol a’n setiau teledu.  Byddai Helo Blod yn hoffi gwneud hynny yn Gymraeg a dyna pam ry’n ni’n ariannu llawer o waith datblygu yn y maes  yma.  Rho gynnig arni gyda’r adnoddau yma gan Brifysgol Bangor.  

Trawsgrifiwr Cymraeg Prifysgol Bangor  

Chwilio am ap sy’n teipio wrth i ti siarad Cymraeg?  Mae’r trawsgrifiwr arbrofol yma yn gweithio ar Windows ac mae’n teipio’r hyn rwyt ti’n ei ddweud ar y sgrin. 

Lleisiau synthetig Cymraeg Ivona: Gwyneth a Geraint  

Yn wreiddiol, Llywodraeth Cymru gomisiynodd y lleisiau yma gan RNIB Cymru.  Mae’r lleisiau testun-i-leferydd yma’n galluogi siaradwyr a dysgwyr Cymraeg dall a rhannol ddall i ddarllen gwefannau, cyfnewid negeseuon e-bost a darllen ac ysgrifennu dogfennau yn Gymraeg.  Y dasg nesaf yw dewis os wyt ti’n mynd i wrando ar lais Gwyneth neu Geraint heddiw!

Lleisiwr

Teclyn arloesol sy’n gallu helpu os wyt ti mewn peryg o golli dy allu i siarad achos salwch neu gyflwr meddygol.  Defnyddia dy lais i ddatblygu llais synthetig personol dy hun.

MaryTTS - testun i lais  

Os ydy Gwyneth a Geraint wedi dy ysbrydoli di i greu llais synthetig Cymraeg dy hun bydd y rhaglen yma o fudd i ti.  Cofia rhoi enw bachog (fel Blod) i’r llais pan fyddi di wedi gorffen!  

Festival - testun i lais  

Rhaglen testun i leferydd. 

Darllenydd sgrin sy’n addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg  

Darllenydd sgrin hygyrch, o ansawdd uchel.  Bydd angen i ti ychwanegu lleisiau Cymraeg dy hun ond bydd hynny’n rhwydd, ti’n arbenigwr yn y maes nawr dy fod ti wedi darllen trwy bopeth ar y rhestr yma!  

Canllaw ar feddalwedd dwyieithog i ddatblygwyr

Wyt ti neu dy sefydliad yn datblygu meddalwedd dwyieithog? Bydd y canllaw yma’n berffaith i dy helpu di sicrhau fod dy brosiect TG yn cynnig gwasanaeth gwych yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae lot o waith technoleg ar y gweill ‘da ni yn Llywodraeth Cymru – ac mae’r cwbl am ddim i ti i’w ddefnyddio! Dyma’r cynllun, a dyma beth ry’n ni wedi ei wneud yn barod!