BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Eisteddfod Genedlaethol 2022

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol, gŵyl ddiwylliannol fwya'r wlad, yn Nhregaron, Ceredigion rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2022.

Er mai cystadlu yw calon yr ŵyl, a’i bod yn denu dros 6,000 o gystadleuwyr bob blwyddyn, mae'r Maes ei hun wedi tyfu a datblygu'n ŵyl fywiog gyda channoedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau i'r teulu cyfan.

Mae'r Brifwyl yn denu tua 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, felly bachwch ar y cyfle hwn i hyrwyddo'ch busnes i gynulleidfa Gymraeg yn bennaf, drwy logi stondin fasnach yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i logi stondin fasnach yw 1 Mai 2022. Bydd arddangoswyr yn gallu dewis eu lleoliad, ond bydd angen llenwi ffurflen gofrestru ar-lein a thalu blaendal o £250 + TAW (£300) yn gyntaf. Am ragor o wybodaeth, ewch i Stondinau | Eisteddfod Genedlaethol

Dyfernir consesiynau arlwyo'r Eisteddfod Genedlaethol ar sail tendr. Am ragor o wybodaeth ewch i Consesiynau Arlwyo 2022 | Eisteddfod Genedlaethol. Y dyddiad cau yw 6 Ebrill 2022 am hanner dydd.

Dalier sylw!

Mae'r Brifwyl yn hel ei phac i Wynedd, Llŷn ac Eifionydd rhwng 5 a 12 Awst 2023. Am ragor o wybodaeth ewch i 2023 Llŷn ac Eifionydd | Eisteddfod Genedlaethol.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.