BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Eisteddfod Genedlaethol 2023

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol, gŵyl ddiwylliannol fwya'r wlad, yn Llŷn ac Eifionydd, Boduan, Gwynedd rhwng 5 a 12 Awst 2023.

Er mai cystadlu yw calon yr ŵyl, a’i bod yn denu dros 6,000 o gystadleuwyr bob blwyddyn, mae'r Maes ei hun wedi tyfu a datblygu'n ŵyl fywiog gyda channoedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau i'r teulu cyfan.

Mae'r Brifwyl yn denu tua 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, felly bachwch ar y cyfle hwn i hyrwyddo'ch busnes i gynulleidfa Gymraeg yn bennaf, drwy logi stondin fasnach yn Eisteddfod Genedlaethol Gwynedd.

Gallwch archebu eich stondin ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd o 10am Mercher 1 Mawrth 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Stondinau 2023 | Eisteddfod Genedlaethol

Gall defnyddio ychydig bach o Gymraeg yn eich busnes wneud gwahaniaeth mawr. Helo Blod yw eich gwasanaeth cyngor a chyfieithu Cymraeg cyflym a chyfeillgar. Ac mae am ddim. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Croeso i Helo Blod | Helo Blod (llyw.cymru)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.