BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Eisteddfod Genedlaethol 2024 - Stondinau ac Unedau

Crowds of people at the Eisteddfod

Meddwl llogi stondin neu uned ar Faes Eisteddfod Rhondda Cynon Taf?  Cofrestrwch am ragor o wybodaeth

Bydd ein stondinau ac unedau'n mynd ar werth ddydd Gwener 1 Mawrth.

Mae Maes yr Eisteddfod eleni'n wahanol i faes traddodiadol, gan ei fod wedi'i leoli mewn parc cyhoeddus, sydd â llwybrau, adeiladau a chaeau chwarae.

Beth sydd ar gael eleni?

  • Stondinau 3m x 6m: Uned arferol ar y Maes.  Gellir archebu hyd at ddwy uned ar y Maes ym Mhontypridd.  Byddwn yn gosod rhesi o stondinau yn ôl yr arfer mewn ardal ganolog o'r Maes.
  • Cytiau Pren 3m x 2.5m: Cytiau unigol yn unig.  Bydd y rhain wedi'u gosod o amgylch y Maes yn ôl yr arfer.
  • Stondinau 3m x 3m: Newydd ar gyfer eleni.  Stondinau llai - perffaith ar gyfer busnes neu gwmni bach sy'n dod i'r Eisteddfod am y tro cyntaf.  Bydd y rhain wedi'u gosod mewn rhesi mewn ardal ganolog o'r Maes.
  • Hwb Trydydd Sector: Yn dilyn ei lwyddiant yn 2023, mae'r Hwb yn ôl ar gyfer 2024, gofod arddangos ar gyfer cyrff gwirfoddol a mudiadau trydydd sector
  • Strwythurau
  • Artisan

Dyddiad cau cofrestru diddordeb: 9 Ionawr 2024.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Stondinau ac unedau 2024 | Eisteddfod


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.