Manylion consesiynau arlwyo, stondinau ac unedau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Mae'r cyfleoedd canlynol ar gael drwy dendr ar gyfer Eisteddfod 2025:
- Pentref Bwyd (unedau arlwyo symudol)
- Cynigion manwerthu eraill ar hyd y Maes
- Platiad a chynigion arlwyo eraill ar ffurf bwyty
- Hufen ia
- Arlwyo a siop y maes carafanau
- Maes B
- Ffreutur criw'r Maes
Dyddiad cau: 12 hanner dydd 17 Chwefror 2025.
Am ragor o wybodaeth dewiswch y ddolen ganlynol: Consesiynau arlwyo Eisteddfod 2025 | Eisteddfod
Mae stondinau ac unedau 2025 yn mynd ar werth ar 3 Mawrth 2025.
Beth sydd ar gael eleni?
- Stondinau 3m x 6m: Uned arferol ar y Maes. Byddwn yn gosod rhesi o stondinau yn ôl yr arfer mewn ardal ganolog o'r Maes;
- Cytiau Pren 3m x 2.5m: Cytiau unigol yn unig. Bydd y rhain wedi'u gosod o amgylch y Maes yn ôl yr arfer;
- Stondinau 3m x 3m: Stondinau llai - perffaith ar gyfer busnes neu gwmni bach sy'n dod i'r Eisteddfod am y tro cyntaf. Bydd y rhain wedi'u gosod mewn rhesi mewn ardal ganolog o'r Maes;
- Strwythurau: Os hoffech chi drafod presenoldeb amgen ar y Maes eleni, cysylltwch â ni, stondinau@eisteddfod.cymru
- Pentref Celf: Cytiau pren a stondinau 6m x 3m i'w gosod yn ardal Y Lle Celf.
Am ragor o wybodaeth dewiswch y ddolen ganlynol: Stondinau ac unedau 2025 | Eisteddfod