BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Eisteddfod yr Urdd 2024

children singing

Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn un o wyliau ieuenctid teithiol blynyddol mwyaf Ewrop, ac eleni bydd yn cael ei chynnal rhwng 27 Mai a 1 Mehefin 2024 yn Maldwyn.

Mae’r ŵyl yn dathlu'r Gymraeg a diwylliant Cymru ac, yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd dros 15,000 o blant a phobl ifanc dan 25 oed yn cystadlu mewn gwahanol gystadlaethau, gan gynnwys canu, dawnsio a pherfformio.

Mae’r ŵyl yn denu tua 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, felly manteisiwch ar y cyfle i hybu eich busnes i gynulleidfa Gymraeg ei hiaith yn bennaf! Mae cyfleoedd noddi i fusnesau hefyd.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Maldwyn 2024 | Urdd Gobaith Cymru

Gall defnyddio ychydig bach o Gymraeg yn eich busnes wneud gwahaniaeth mawr. Helo Blod yw eich gwasanaeth cyngor a chyfieithu Cymraeg cyflym a chyfeillgar. Ac mae am ddim. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Croeso i Helo Blod | Helo Blod (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.