BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022

Sefydliad ieuenctid gwirfoddol yw Urdd Gobaith Cymru gyda 55,000 a mwy o aelodau rhwng 8 a 25 oed, sy'n darparu cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc yng Nghymru i'w helpu i wneud cyfraniadau cadarnhaol i'w cymunedau.

Sir Ddinbych yw cartref Eisteddfod yr Urdd eleni rhwng 30 Mai a 4 Mehefin 2022.

Mae 500 o gystadlaethau ar gael i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yn Eisteddfod yr Urdd. Mae'r rhain yn amrywio o ganu a dawnsio i goginio, celf, ffasiwn a harddwch, yn ogystal â chystadlaethau ar gyfer dysgwyr.

Mae’r Eisteddfod yn denu tua 90,000 o ymwelwyr ac yn cynnal cannoedd o stondinau bob blwyddyn, gan ddarparu cyfleoedd gwych i gwmnïau a sefydliadau sydd am hybu a hyrwyddo eu brand, eu cynnyrch, gwasanaethau ac enw da.

A hoffai'ch cwmni neu'ch sefydliad gynnig nawdd, gwneud cais am un o'r tendrau neu rentu stondin yn yr Eisteddfod? 

Am ragor o wybodaeth ewch i Gwybodaeth i Gwmnïau | Urdd Gobaith Cymru

Dalier sylw!

Sir Gaerfyrddin fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2023 | Urdd Gobaith Cymru

Maldwyn fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2024 | Urdd Gobaith Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.