Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, newydd gyhoeddi enwau'r sefydliadau sydd wedi ymgeisio’n llwyddiannus am her Llywodraeth Cymru gwerth £750,000 ar gyfer datblygu Morlynnoedd Llanw.
Cafodd yr her ei chyhoeddi gan y Prif Weinidog Mark Drakeford ym mis Mawrth 2023 pan ddywedodd y byddai'n neilltuo cyllid ar gyfer o leiaf tri phrosiect i ymchwilio i dechnoleg morlynnoedd llanw.
Mae'r tri sefydliad arwain llwyddiannus wedi'u henwi:
- Prifysgol Abertawe yng nghategori'r Amgylchedd
- Offshore Renewable Energy Catapult yn y categori Peirianneg a Thechnoleg
- Prifysgol Caerdydd yng nghategori'r Economi-gymdeithasol a Chyllid
Yn y gynhadledd, cyhoeddodd y Gweinidog hefyd y bydd hyd at £1 miliwn o arian cyfatebol yn cael ei roi gan Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau i gynnal gwaith paratoi er mwyn gallu rhoi prosiectau gwynt arnofiol ar y môr ar waith yn y dyfodol o Benfro.
Mae hyn yn adeiladu ar grant tebyg o arian cyfatebol i Associated British Ports ar gyfer gwaith dechreuol ym Mhort Talbot a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2023.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddoleni ganlynol: