
Mae Expo Cadwyn Gyflenwi Diwydiant Modur Cymru yn ôl, ddydd Mawrth 13 Mai 2025, yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Bydd yn canolbwyntio ar ddyfodol cadwyn gyflenwi diwydiant modur Cymru ac yn archwilio’r arloesi diweddaraf sy’n arwain y diwydiant. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys y canlynol:
- Cadwyn Gyflenwi Diwydiant Modur Cymru
- Cerbydau Masnachol
- Newid i Symudedd Sero-net
- Symudedd Cysylltiedig a Symudedd o dan Reolaeth Awtomatig
- Technoleg Traws-sector – e.e. Ynni Adnewyddadwy ar y Môr
I gael y cyfle i gwrdd ag arweinwyr y diwydiant, dangos eich syniadau arloesol a thyfu eich busnes yng nghadwyn gyflenwi diwydiant modur y DU, cofrestrwch yma: Fforwm Diwydiant Modurol Cymru.