BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Fast Start: Cystadleuaeth Ariannu Arloesedd

Gall busnesau bach a micro cofrestredig yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £30 miliwn ar gyfer arloesiadau fforddiadwy, mabwysiadwy a buddsoddiadwy mewn sero net a Gofal Iechyd.

Mae Innovate UK yn cynnig cyfran o hyd at £30 miliwn mewn grantiau i fusnesau bach a micro ochr yn ochr â chymorth busnes wedi'i deilwra a gyflwynir gan Innovate UK EDGE.

Gallwch wneud cais am hyd at £50,000 ar gyfer syniadau arloesol iawn sydd â llwybr clir at fasnacheiddio drwy dwf busnes.

Rhaid i'ch prosiect arwain at gynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd sydd gryn dipyn ar y blaen i eraill sydd ar gael ar hyn o bryd, neu gynnig defnydd arloesol o gynhyrchion, prosesau neu wasanaethau presennol. Gall hefyd gynnwys model busnes newydd neu arloesol.

Yn eich cais, rhaid i chi allu dangos:

  • bod gennych chi syniad gwych
  • bod angen arian cyhoeddus arnoch
  • bod gennych y gallu i gyflwyno’r prosiect
  • y byddwch yn cyflwyno’r prosiect

Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw 26 Gorffennaf 2022 am 11am.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Competition overview - Fast Start: Innovation - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.