Mae'r DU yn cynhesu. O ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd, mae cyfnodau o dywydd poeth yn mynd yn hwy ac yn fwy eithafol, ac mae iechyd a lles llawer o bobl yn dioddef o ganlyniad.
Mae adroddiad y Groes Goch Brydeinig, Feeling the Heat, yn crynhoi tueddiadau, canlyniadau ac atebion sy'n ymwneud â gwres llethol yn y DU:
Gall effeithiau cyfnodau o dywydd poeth fod yn ddifrifol, ond gellir eu hatal hefyd ac nid oes angen iddynt fod yn angheuol. Fodd bynnag, mae'r ymchwil yn amlygu’r 'bwlch canfyddiad' yn y DU, ar effeithiau gwres ar iechyd, ac yn awgrymu bod angen gwneud mwy o waith i roi gwybod i bobl am y perygl o wres llethol, a'r ffyrdd y gallant fod mewn perygl.
Mae'r adroddiad yn nodi nifer o gamau syml y gall pobl eu cymryd i amddiffyn eu hunain ac eraill rhag gwres llethol, yn ogystal â gwneud argymhellion ar gyfer llunwyr polisi.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i Feeling the heat: a British Red Cross briefing on heatwaves in the UK | British Red Cross