BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

f:Entrepreneur #iAlso100 2025 – Ceisiadau ar agor!

Female Entrepreneur

Mae Small Business Britain yn awyddus iawn i gynyddu nifer yr entrepreneuriaid benywaidd o'r lefel bresennol, sef 20%, i 30% yn 2030 ac mae'r ymgyrch f:Entrepreneur a'r holl entrepreneuriaid benywaidd yn rhan ganolog o hynny. 

Ar draws cymdeithas, mae menywod yn creu ffyrdd newydd o weithio, a ffyrdd newydd o fesur llwyddiant ym maes entrepreneuriaeth. Maent yn symud o yrfa-un-swydd i fyd lle mae'n bosibl gwneud llawer o bethau (rhyng-gysylltiedig yn aml) ar yr un pryd ar draws y sbectrwm gwaith a phersonol, a lle mae hynny’n cael ei annog – gan fod yn llawn brwdfrydedd am yr holl bethau hynny hefyd. Mae f:Entrepreneur yn credu bod hyn yn rhywbeth i'w ddathlu, a dyna pam y crëwyd yr ymgyrch #iAlso.

Cafodd ymgyrch #iAlso100 ei lansio yn 2018, ac mae bellach yn ei seithfed flwyddyn ac yn dathlu ystod eang o dalent entrepreneuriaid benywaidd yn y DU. Mae wedi gweld twf sylweddol o ran ceisiadau, cyrhaeddiad, sylw yn y wasg ac ymwybyddiaeth bob blwyddyn. 

Mae pob aelod o'r #iAlso100 yn cael ei arddangos ar wefan f:Entrepreneur a phob platfform cyfryngau cymdeithasol. Mae yna ddigwyddiadau misol unigryw i aelodau eu mynychu a chyfleoedd i gynnal digwyddiadau a siarad ar baneli ledled pob un o ymgyrchoedd Small Business Britain, yn ogystal â chefnogaeth bwrpasol o ran y wasg a chysylltiadau cyhoeddus.

Mae'r cyfleoedd hyn yn codi proffil yr entrepreneuriaid, gan roi mwy o lais a mynediad iddynt at lunwyr polisi er mwyn cyfrannu at faterion allweddol sy'n effeithio ar berchnogion busnesau benywaidd.

Felly ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn rhedeg eich busnes eich hun ond hefyd yn gwisgo sawl het wahanol? Efallai eich bod chi hefyd yn gwirfoddoli i elusen, bod gennych fusnes bach ar yr ochr neu eich bod yn gofalu am berthynas? Efallai eich bod chi'n eistedd ar fwrdd, neu bod gennych fenter gymunedol a'ch bod yn llawn angerdd am gynhwysiant ac amrywiaeth? Os felly, rydym eisiau clywed gennych! 

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 30 Medi 2024.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, dewiswch y ddolen ganlynol: f:Entrepreneur | Inspiring Female Business leaders Across The UK (f-entrepreneur.com)

Cefnogi Merched yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod ac yn cefnogi pwysigrwydd a chyfraniad entrepreneuriaid sy'n fenywod at economi Cymru: Cefnogi Merched yng Nghymru | Busnes Cymru (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.