BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Festival UK* 2022

Bydd Festival UK* 2022 yn ddeg prosiect agored, gwreiddiol, cadarnhaol, ac anghyffredin ar raddfa fawr a fydd yn ymgysylltu â'r cyhoedd ac yn arddangos creadigrwydd ac arloesedd y DU i'r byd.

Rydym yn chwilio am y meddyliau gorau a'r doniau disgleiriaf o'r meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg, yng Nghymru, i ffurfio Timau Creadigol a fydd yn gallu datblygu prosiectau ymgysylltu â'r cyhoedd ar raddfa fawr i arddangos creadigrwydd ac arloesedd y DU ar lwyfan rhyngwladol.

Nid yw syniadau yn ofyniad i'r broses ymgeisio ond rhaid i Dimau Creadigol allu dangos bod ganddynt y sgiliau a'r cydweithwyr sydd eu hangen i fodloni cyfuniad o feini prawf y byddant yn cael eu hasesu yn eu herbyn. 

Bydd y deg comisiwn llwyddiannus yn cael eu lansio dan enw gŵyl newydd ar ddiwedd 2021 ac yn cael ei chynnal drwy gydol 2022.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Hydref 2020.

Gellir dod o hyd i fanylion llawn a chanllawiau yn www.festival2022.uk

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.