BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ffair Aeaf Cymru 2021

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (RWAS) wedi cyhoeddi y bydd y Ffair Aeaf yn dychwelyd i Faes y Sioe Llanelwedd eleni fel digwyddiad deuddydd ar 29 a 30 Tachwedd 2021.

Ar ôl methu cynnal digwyddiad ar Faes y Sioe Fawr ers Ffair Aeaf 2019 oherwydd pandemig y Coronafeirws, mae'r Gymdeithas yn edrych ymlaen at groesawu arddangoswyr ac ymwelwyr i Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2021.

Unwaith eto, bydd y Ffair Aeaf yn arddangos y stoc gorau mewn deuddydd llawn dop o gystadlaethau a siopa Nadolig.

Bydd cyfyngiadau COVID ar waith yn y Ffair Aeaf a byddant yn cynnwys rheoliadau diweddaraf y Llywodraeth ar adeg cynnal y digwyddiad. Dim ond e-docynnau fydd ar gael i'w prynu ar gyfer y digwyddiad er mwyn i'r Gymdeithas gydymffurfio â rheoliadau monitro ac olrhain. 

Bydd tocynnau ar gael i'w prynu ar sail y cyntaf i'r felin unwaith y byddant ar werth. Bydd manylion am sut y gallwch brynu tocynnau yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Am ragor o fanylion, ewch i wefan RWAS.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.