Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn gofyn i bobl ledled Cymru ymrwymo i wario o leiaf £10 yn lleol gyda busnes bach a rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol beth sy'n gwneud y busnes hwnnw'n arbennig gan ddefnyddio'r hashnod #10PuntLeol #10PoundPledge.
Mae'r mudiad yn dweud bod cymryd rhan yn yr ymgyrch yn gallu helpu:
- Hybu economïau lleol: Annog eraill i gefnogi busnesau bach yn eu cymuned.
- Arddangos busnesau lleol: Tynnu sylw at gynigion unigryw busnesau bach.
- Sicrhau bod busnesau lleol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi: Diolch i fusnesau bach am eu cyfraniadau i'n cymunedau.
Gallwch lawrlwytho adnoddau i'w defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol trwy ddewis y ddolen hon: FSB | Supporting our small businesses this festive season #10PoundPledge #10PuntLeol