Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) - Gwobrau Dathlu Busnesau Bach yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniadau sylweddol busnesau bach a phobl hunangyflogedig yn y DU.
Nod y gystadleuaeth yw cydnabod pob unigolyn, cwmni neu deulu sy’n rhedeg neu'n gweithio mewn busnes bach, neu sy’n berchen arno.
Dyma'r categorïau:
- busnes rhyngwladol y flwyddyn
- gwobr amgylcheddol
- microfusnes y flwyddyn
- busnes newydd y flwyddyn
- busnes twf uchel y flwyddyn
- busnes teuluol y flwyddyn
- entrepreneur ifanc y flwyddyn (30 oed ac iau)
- gwobr llesiant y flwyddyn
- gwobr gymunedol – ardal yn unig
- gwobr arloesi gyda chynnyrch a busnes
- busnes digidol/e-fasnach y flwyddyn masnachwr hunangyflogedig/unigol y flwyddyn
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yng Nghymru yw 20 Chwefror 2022, a chynhelir y rownd derfynol ar 8 Ebrill 2022.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, ewch i wefan FSB.