Mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru eu Ffeithlen Cymorth â Biliau Ynni ac wedi nodi camau i gefnogi pobl a busnesau gyda'u biliau ynni a mynd i'r afael ag achosion sylfaenol y materion ym marchnad ynni'r DU trwy fwy o gyflenwad.
Dyma'r cynnwys:
- Cymorth i gartrefi
- Cymorth i fusnesau ac eiddo annomestig
- Diwygio i fynd i’r afael â materion hirdymor yn sector ynni’r DU
- Help arall
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Energy bills support factsheet - GOV.UK (www.gov.uk)
Gallai eich busnes dorri costau trwy ddefnyddio llai o ynni a dŵr, defnyddio llai o ddeunyddiau crai a lleihau gwastraff. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i fynd i dudalen Effeithlonrwydd Adnoddau Busnes Cymru Resource Efficiency | Busnes Cymru (gov.wales)
Darganfyddwch fwy am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gartrefi i helpu gyda phwysau costau byw drwy glicio ar y ddolen ganlynol Cynllun cymorth tanwydd Cymru: 2022 i 2023 | LLYW.CYMRU