BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ffermwyr i helpu Cymru i gyrraedd Sero Net

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cyhoeddi £32 miliwn heddiw (1 Medi 2022) i helpu ffermwyr a pherchenogion tir yng Nghymru i blannu 86 miliwn o goed cyn diwedd y degawd fel ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn adolygiad byr a manwl gan y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd i weld sut orau i drechu’r rhwystrau sy’n cadw pobl rhag creu coetir.

Mae angen i Gymru blannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn diwedd y degawd fel rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i wneud y wlad yn sero net erbyn 2050.

Dyma’r ddau gynllun newydd:

  • Y Cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir. Dyma gynllun i symleiddio’r drefn ar gyfer talu ffermwyr a pherchenogion tir sydd am blannu darnau bach o dan ddau hectar o faint o goed yng Nghymru ar dir sydd wedi’i wella’n amaethyddol neu o werth amgylcheddol isel.
  • Mae’r Grant Creu Coetir yn cynnig arian i ffermwyr a pherchenogion tir sydd â phlan creu coetir sydd wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, i blannu coed a ffensio.

Mae’r ddau gynllun yn cynnig grantiau ar gyfer plannu coed, codi ffensys a gatiau a gwaith cynnal a chadw am 12 mlynedd.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Ffermwyr i helpu Cymru i gyrraedd Sero Net wrth i Lywodraeth Cymru neilltuo £32m ychwanegol ar gyfer plannu coed | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.