BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ffioedd a thaliadau rheoleiddio ymgynghori CNC ar gyfer 2023/2024

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio ymgynghoriad ar eu cynlluniau i ddiweddaru'r taliadau am rai o'u hawlenni a'u trwyddedau, sydd wedi eu cynllunio i weithio'n well i fusnesau a'r amgylchedd ac i leihau'r ddibyniaeth ar y trethdalwr.

Nid yw'r taliadau presennol, sy'n cynnwys caniatáu a chydymffurfio a monitro parhaus bellach yn adlewyrchu costau llawn cyflwyno’r gwasanaethau, sy'n golygu bod arian trethdalwyr wedi cael eu defnyddio i lenwi'r diffyg.  

O dan gynigion sydd wedi'u nodi yn yr ymgynghoriad, bydd y rheiny sy’n talu tâl yn talu am y gwasanaethau llawn maen nhw'n eu defnyddio, gan arwain at amgylchedd sy'n cael ei reoli'n well ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Yn amodol ar gymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru, bydd taliadau newydd yn cael eu cyflwyno o fis Ebrill 2023 ar gyfer: 

  • Rheoleiddio'r diwydiant
  • Gwastraff safle
  • Ansawdd dŵr
  • Adnoddau dŵr
  • Cydymffurfiaeth cronfeydd dŵr
  • Cyflwyno taliadau trwyddedu rhywogaethau

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 7 Ionawr 2023. 

Am wybodaeth bellach ac i ymateb i'r ymgynghoriad, dewiswch y ddolen ganlynol https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/sroc/strategic-review-of-charging/ 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.