Fforwm ar gyfer pobl sy'n chwilio am gyllid ar gyfer eu busnes yw Fforwm Cyllid ar gyfer Twf Insider Cymru, mewn partneriaeth â’r Gronfa Buddsoddi i Gymru gan Fanc Busnes Prydain.
Cynhelir y digwyddiad rhad ac am ddim ar 9 Gorffennaf 2024 yng ngwesty a sba Mercure Cardiff Holland House, gyda’r cofrestru yn dechrau am 8:45am.
Bydd y digwyddiad yn rhannu gwybodaeth am amrywiaeth o opsiynau ariannu a sut i'w defnyddio ar gyfer twf busnes. Nod y Gronfa Buddsoddi i Gymru yw darparu £130 miliwn i gefnogi arloesedd a chreu cyfleoedd ar gyfer busnesau newydd a busnesau sy’n ehangu ar draws y wlad.
Bydd y fforwm yn cynnwys dau banel, un gydag arbenigwyr o’r diwydiant yn trafod yr hyn y mae buddsoddwyr yn chwilio amdano wrth gefnogi busnes, y broses diwydrwydd dyladwy, a'r broses gyfreithiol. Ar y panel arall bydd busnesau’n rhannu eu profiadau o godi arian a’r gwersi a ddysgwyd ar hyd y ffordd.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru: Wales Funding for Growth Forum (insidermedia.com)
Banc Datblygu Cymru
Cyllid busnes hyblyg i gwmnïau yng Nghymru, gwiriwch a yw eich busnes yn gymwys: Banc Datblygu Cymru - Dev Bank (developmentbank.wales)
Digwyddiadur Busnes Cymru
Chwiliwch ein Digwyddiadur am hyfforddiant, seminarau, gweithdai a rhwydweithio busnes gan wahanol gyrff: Digwyddiadur Busnes Cymru