BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Fframwaith a Thendr Mân Weithfeydd Newydd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) eisiau gweithio gyda mwy o wasanaethau adeiladu lleol i gynorthwyo gyda chynnal a chadw ei safleoedd.  

Gydag oddeutu 77 eiddo ledled Gwent, yn amrywio o rai a adeiladwyd cyn 1900 i ysbytai gofal dwys cwbl weithredol, mae cynnal a chadw adeiladau’r Bwrdd Iechyd yn dasg enfawr.  

O ganlyniad, mae tîm Ystad BIPAB eisiau cydweithio â Busnesau Bach a Chanolig lleol i gynorthwyo gyda phrosiectau mân weithfeydd, a'u cyflawni.  

Mae hwn yn gyfle gwych i wasanaethau adeiladu lleol weithio gyda’r Bwrdd Iechyd, i gynorthwyo i gynnal a chadw a gwella eu safleoedd i sicrhau gofal o ansawdd i gleifion ac amgylcheddau gweithio diogel i staff. 

Mae’r Fframwaith a Thendr Mân Weithfeydd yn fyw tan 12pm ar 14 Gorffennaf 2023. 

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar hysbysiad GwerthwchiGymru, ac mae dogfennaeth lawn y tendr ar gael drwy etenderwales: e-tendering portal for Value Wales (bravosolution.co.uk)

Mae BIPAB yn chwilio am fusnesau sy’n gweithredu mewn ystod eang o fân waith adeiladu, gan gynnwys: 

  • Gwaith Adeiladu Cyffredinol 
  • Lloriau 
  • Nenfydau 
  • Paentio ac Addurno 
  • Gwaith Trydanol 
  • Gwaith Mecanyddol 
  • Drysau Tân 
  • Rhaniadau Tân 
  • Toeau 
  • Ffenestri a Gwydro 
  •  Diogelwch (CCTV, Rheoli Mynediad, Ymwthwyr)
  • Awyru 
  • Nwy meddygol 
  • Cloddio a Pheirianneg Sifil 
  • Gwaredu Asbestos 
  • Dymchwel

Am unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, e-bostiwch: Rachel.Jones43@wales.nhs.uk 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.