BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Fframwaith newydd i gefnogi cynghorau ar 20mya

20mph road sign

Mae canllawiau newydd i gefnogi awdurdodau priffyrdd wrth wneud penderfyniadau ar derfynau cyflymder lleol wedi'u cyhoeddi.

Mae'r canllawiau wedi'u datblygu ar y cyd ag awdurdodau priffyrdd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a Chymdeithas Syrfëwyr Sirol Cymru, yn dilyn Rhaglen Wrando Genedlaethol dan arweiniad Ysgrifennydd Cabinet Gogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

O fis Medi ymlaen, gall awdurdodau priffyrdd ddechrau defnyddio'r fframwaith newydd i asesu terfynau cyflymder ar ffyrdd lle ystyrir bod newid yn briodol. Disgwylir i nifer y ffyrdd a adolygir amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar faint o adborth a dderbynnir gan bob awdurdod priffyrdd, ac o ganlyniad bydd yr amserlenni ar gyfer cyflawni newid yn amrywio o un awdurdod lleol i'r llall.

Rydym am greu fframwaith ar y cyd sy'n cefnogi awdurdodau priffyrdd i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer ffyrdd lleol, yn enwedig pan fo hynny yn gymhleth. Yn unol â Datganiad Stockholm y Cenhedloedd Unedig, mae'r canllawiau'n blaenoriaethu terfynau 20mya lle mae cerddwyr a beicwyr yn cymysgu'n aml â cherbydau oni bai bod tystiolaeth gref i gefnogi bod cyflymderau uwch yn ddiogel.

Cyn bo hir, gwahoddir awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau am gyllid iddynt allu gwneud newidiadau i derfynau cyflymder yn unol â'r canllawiau newydd.

Mae £5 miliwn ychwanegol ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Fframwaith newydd i gefnogi cynghorau ar 20mya | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.