Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar sut y byddant yn cynnig profi am COVID-19 i weithleoedd sector cyhoeddus a phreifat.
Bydd cefnogaeth Llywodraeth Cymru i brofion asymptomatig rheolaidd mewn gweithleoedd yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn canolbwyntio ar weithleoedd:
- lle mae gweithwyr yn dod i fwy o gysylltiad â risg;
- lle mae gweithwyr yn gweithio’n agos at bobl eraill;
- sydd â > 50 o weithwyr nad ydynt yn gallu gweithio gartref;
- sy’n darparu a chynnal gwasanaethau allweddol ar gyfer y cyhoedd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.