BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ffurflenni treth Hunanasesiad

Small business owners looking at a digital device

System y mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ei defnyddio i gasglu Treth Incwm yw Hunanasesiad.

Fel arfer mae treth yn cael ei ddidynnu’n awtomatig o gyflogau a phensiynau. Rhaid i bobl a busnesau sydd ag incwm arall gyflwyno ffurflen dreth Hunanasesiad.

Dechreuodd y flwyddyn dreth ddiwethaf ar 6 Ebrill 2023 a daeth i ben ar 5 Ebrill 2024.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflenni treth ar-lein

Os ydych yn llenwi eich ffurflen dreth ar-lein, rhaid i chi ei chyflwyno erbyn hanner nos 31 Ionawr 2025.

Dyddiadau cau ar gyfer talu’r dreth sy'n ddyledus gennych

Mae angen i chi dalu’r dreth sy’n ddyledus erbyn hanner nos 31 Ionawr 2025.

Fel arfer mae ail ddyddiad cau ar gyfer taliadau sef 31 Gorffennaf os byddwch yn gwneud taliadau ymlaen llaw tuag at eich bil (a elwir yn ‘daliadau ar gyfrif’).

Fel arfer, byddwch yn talu dirwy os ydych chi'n hwyr yn talu. Gallwch apelio yn erbyn dirwy os oes gennych esgus rhesymol.

Mae sianel YouTube CThEF yn cynnig fideos byr i’ch helpu gyda’ch ffurflen dreth gan gynnwys 'How do I tailor my Self Assessment tax return '.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Ffurflenni treth Hunanasesiad: Trosolwg - GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.