Mae'r gystadleuaeth First of a Kind yn cynnig cyfran o wobr o £9 miliwn am syniadau ar gyfer rheilffyrdd y dyfodol, i ddatblygu arddangoswyr sy'n:
- cynyddu hyder cwsmeriaid a gwella eu profiad
- darparu rheilffordd sy'n hawdd ei defnyddio
- cynnig allyriadau isel a rheilffordd wyrddach
I arwain prosiect, rhaid i chi:
- fod yn sefydliad o unrhyw faint sydd wedi'i gofrestru yn y DU, yr UE neu'r AEE
- cyflawni eich gwaith prosiect yn y DU
Croesewir ymgeiswyr o bob sector. Gallwch chi weithio ar eich pen eich hun neu gyda sefydliadau eraill fel is-gontractwyr.
Rhaid i'ch prosiect gynnwys:
- perchennog asedau rheilffordd (er enghraifft gorsafoedd, cerbydau rheilffyrdd neu seilwaith)
- sefydliad rheilffordd profiadol
- sefydliad rheilffordd sydd â'r potensial i ddod yn gwsmer
Daw'r gystadleuaeth i ben ddydd Mercher 10 Mawrth 2021 am 11am.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK .