Mae’r DU bellach mewn cyfnod pontio tan 31 Rhagfyr 2020, tra bydd trafodaethau gyda’r UE yn mynd rhagddynt ynghylch y berthynas yn y dyfodol.
Yn ystod y cyfnod pontio hwn ni fydd eich dyletswydd i reoli risg yn y gweithle yn newid.
Mae iechyd a diogelwch da yn dda i fusnes.
Bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn ystod y cyfnod pontio. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalennau gwe Brexit yr Awdurdod.
Mae’r canllawiau ‘Health and Safety made simple’ yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol hefyd i’ch helpu i reoli’r risgiau yn eich busnes mewn ffordd gymesur.