Mae mwy na 44,000 o gartrefi a busnesau ledled Cymru yn elwa o well cysylltedd, diolch i fand eang ffeibr llawn cyflym a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mewn partneriaeth ag Openreach, mae'r prosiect pedair blynedd, sydd bellach wedi'i gwblhau, wedi rhoi mynediad at gysylltedd ffeibr llawn i filoedd yn fwy o eiddo na'r targed gwreiddiol o 39,000.
Gwariwyd llai ar gyflwyno'r band eang na'r gyllideb wreiddiol o £57 miliwn ar gyfer y gwaith, a ddarparwyd diolch i gyllid Llywodraeth Cymru a'r UE, buddsoddiad gan Openreach a chymorth gan Lywodraeth y DU.
Wrth i bobl a busnesau ledled Cymru symud tuag at fywydau a gweithleoedd cynyddol ddigidol, mae'r cysylltedd gwell yn adeiladu ar lwyddiant Cyflymu Cymru sydd wedi mwy na dyblu faint o fand eang cyflym sydd ar gael.
Gall pob eiddo sydd wedi elwa nawr gael mynediad at dechnoleg 'Cysylltiad Ffeibr i'r Adeilad' sydd wedi'i ddiogelu at y dyfodol, sy'n gallu darparu cyflymder a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid er mwyn lawrlwytho'n gyflymach a ffrydio'n llyfnach.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol:
- Gall degau o filoedd o gartrefi a busnesau gael myneiad at gyflymder gigabit wrth i brosiect cyflwyno band eang ffeibr llawn gyrraedd y tu hwnt i'w dargedau | LLYW.CYMRU
- Band eang a seilwaith digidol | LLYW.CYMRU
- Datganiad Ysgrifenedig: Cwblhau cynllun diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu band eang (6 Rhagfyr 2023) | LLYW.CYMRU