BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gallai cwsmeriaid Hunanasesu gael eu targedu gan dwyllwyr, rhybuddia CThEF

Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn annog cwsmeriaid Hunanasesu i fod yn effro i dwyllwyr a sgamiau sy'n gofyn am eu gwybodaeth bersonol neu fanylion banc.

Dylai cwsmeriaid Hunanasesu, sy'n dechrau meddwl am eu ffurflenni treth blynyddol ar gyfer blwyddyn dreth 2021 i 2022, warchod rhag cael eu targedu gan dwyllwyr, rhybuddia CThEF.

Yn y 12 mis hyd at Awst 2022, ymatebodd CThEF i fwy na 180,000 o atgyfeiriadau o gyswllt amheus gan y cyhoedd, ac roedd bron i 81,000 ohonynt yn sgamiau oedd yn cynnig ad-daliadau treth ffug. 

Mae troseddwyr sy'n honni eu bod o CThEF wedi targedu unigolion drwy e-bost, negeseuon testun a dros y ffôn gyda'u cyfathrebiadau yn amrywio o gynnig ad-daliadau treth ffug i fygwth eu harestio am osgoi treth. Dylai cysylltiadau fel y rhain seinio clychau larwm - ni fyddai CThEF byth yn galw i fygwth arestio. 

Dylai unrhyw un y cysylltir â nhw gan rywun sy'n honni eu bod nhw o CThEF mewn ffordd sy'n ennyn amheuaeth yn cael ei gynghori i gymryd ei amser a gwirio'r cyngor ar sgamiau ar GOV.UK.

Gall cwsmeriaid roi gwybod am unrhyw weithgaredd amheus i CThEF. Gallant anfon negeseuon testun amheus sy’n honni eu bod o CThEF at 60599 a negeseuon e-bost at phishing@hmrc.gov.uk. Gellir rhoi gwybod am unrhyw alwadau ffôn sgam treth i CThEM gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein oar GOV.UK.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol https://www.gov.uk/government/news/self-assessment-customers-could-be-a-target-for-fraudsters-hmrc-warns

Y dyddiad cau ar gyfer ffeilio ffurflenni treth papur ar gyfer blwyddyn dreth 2021 i 2022 yw 31 Hydref 2022, a 31 Ionawr 2023 ar gyfer y rheiny sy'n ffeilio eu ffurflen dreth ar-lein.
 


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.