BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gallwch chi wneud hawliadau CJRS mis Ebrill nawr

Mae hawliadau o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) bellach ar agor ar gyfer cyfnodau tâl ym mis Ebrill 2021.

Mae'r hawliadau ar gyfer mis Mawrth bellach ar gau, ond os gwelwch chi fod angen i chi wneud newid am na wnaethoch chi hawlio digon, gallwch wneud hyn tan ddydd Sadwrn 28 Ebrill 2021.

Rhaid i chi gyflwyno'ch hawliad ar gyfer mis Ebrill 2021 erbyn 14 Mai 2021.

Dyma'r dyddiadau hawlio yn y dyfodol:

  • ar gyfer diwrnodau ffyrlo ym mis Ebrill 2021, cyflwynwch eich hawliad erbyn 14 Mai 2021
  • ar gyfer diwrnodau ffyrlo ym mis Mai 2021, cyflwynwch eich hawliad erbyn 14 Mehefin 2021
  • ar gyfer diwrnodau ym mis Mehefin 2021, cyflwynwch eich hawliad erbyn 14 Gorffennaf 2021
  • ar gyfer diwrnodau ffyrlo ym mis Gorffennaf 2021, cyflwynwch eich hawliad erbyn 16 Awst 2021
  • ar gyfer diwrnodau ffyrlo ym mis Awst 2021, cyflwynwch eich hawliad erbyn 14 Medi 2021
  • ar gyfer diwrnodau ffyrlo ym mis Medi 2021, cyflwynwch eich hawliad erbyn 14 Hydref 2021

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.