Mae Canolfan Fusnes ac Eiddo Deallusol y Llyfrgell Brydeinig (BIPC) wedi ail-lansio ei rhaglen 'Reset. Restart' o weminarau am ddim, a gynlluniwyd i'ch helpu i oresgyn rhwystrau a ffynnu yn yr hinsawdd bresennol.
Dechreuodd Restart yn ystod anterth pandemig COVID-19 gyda'r nod o gefnogi busnesau bach i addasu a dod drwy’r gwaethaf. Er bod y set o heriau y mae perchnogion busnes yn eu hwynebu heddiw wedi newid, mae'r cymorth yr un mor angenrheidiol nawr ag yr oedd bryd hynny.
Gallwch gyfarfod a rhwydweithio gyda pherchnogion busnesau bach eraill o'r un meddylfryd a magu eich hyder ar bynciau fel marchnata cyfryngau cymdeithasol, ariannu, technoleg ar gyfer eich busnes a llawer mwy.
I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer un neu fwy o'r gweminarau misol, ewch i Reset. Restart - The British Library (bl.uk)