BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gallwch nawr wneud hawliadau CJRS mis Chwefror

Gallwch nawr gyflwyno eich ceisiadau am gyfnodau ym mis Chwefror. Rhaid eu gwneud erbyn dydd Llun 15 Mawrth 2021.

Gallwch hawlio cyn, yn ystod neu ar ôl i chi brosesu eich cyflogres. Os gallwch chi, mae'n well gwneud hawliad unwaith y byddwch yn siŵr o union nifer yr oriau y bu eich cyflogeion yn gweithio fel nad oes rhaid i chi newid eich hawliad yn nes ymlaen.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi a'ch gweithwyr yn gymwys yna cyfrwch faint y gallwch ei hawlio gan ddefnyddio enghreifftiau a chyfrifydd CJRS.

Beth sydd angen i chi ei wneud nawr

  1. Os nad ydych wedi cyflwyno'ch cais ar gyfer mis Ionawr a’ch bod yn credu bod gennych esgus rhesymol dros golli'r dyddiad cau sef, 15 Chwefror, edrychwch ar GOV.UK o dan ‘claim for wages’ i weld a gewch chi wneud hawliad hwyr.
  2. Dylech gyflwyno unrhyw geisiadau ar gyfer mis Chwefror erbyn dydd Llun 15 Mawrth fan bellaf.
  3. Cadwch gofnodion sy'n cefnogi swm y grantiau CJRS rydych yn eu hawlio, rhag ofn y bydd angen i CThEM eu gwirio.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.