BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Galw am dystiolaeth: Cyfleoedd geo-ofodol ledled yr economi

Mae'r Comisiwn Geo-ofodol wedi lansio Galwad am Dystiolaeth fel rhan o waith i adnewyddu Strategaeth Geo-ofodol y DU, yn unol ar ymrwymiad yn y cyhoeddiad 2020.

Ei nod yw casglu barn rhanddeiliaid ar yr hyn sydd wedi newid ers 2020 a pha ddatblygiadau, heriau a chyfleoedd fydd yn effeithio fwyaf ar yr ecosystem dros y blynyddoedd i ddod. Bydd yr alwad am Dystiolaeth yn cau am 11:45pm ddydd Llun 12 Rhagfyr 2022. Dyma gyfle delfrydol i sicrhau bod mewnwelediadau llunwyr polisi, gweithwyr proffesiynol geo-ofodol a diwydiant o Gymru yn cael eu gwneud i'r Comisiwn Geo-ofodol.

Am ragor o wybodaeth neu i ymateb drwy ddolen ar-lein, e-bost neu yn ysgrifenedig cliciwch ar y ddolen ganlynol Call for evidence: Geospatial opportunities across the economy - GOV.UK (www.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.